top of page
Heart Hug Icon

Hyfforddiant Corfforaethol

Heart Hug Icon
Physical Empowerment corporate training class

Gallwch weld ein cyrsiau hyfforddiant corfforaethol isod. Os ydych chi’n unigolyn sy’n gobeithio ymuno ag un o’n cyrsiau Grymuso, cliciwch yma.

1. Hyfforddiant Diogelwch Personol

Mae ein gweithdai diogelwch personol undydd wedi'u cynllunio i feithrin ymwybyddiaeth a gwydnwch corfforol, emosiynol a meddyliol trwy gymysgedd o dechnegau ymarferol ac ymarferion myfyriol. Gall yr hyfforddiant hwn fod yn rhan hanfodol o hyfforddiant eich tîm, gall gyfrannu at ymdeimlad o ddiogelwch personol unigolyn, gall gael ei ddefnyddio fel rhan o ddatblygiad proffesiynol parhaus, neu ei ddefnyddio fel diwrnod gweithgaredd adeiladu tîm.

Bydd eich tîm yn dysgu sut i:

  • Hawlio eu gofod personol ac ymddiried yn eu greddf

  • Deall cyfraith y DU ynghylch hunanamddiffyn

  • Datblygu strategaethau ar gyfer rheoli ofn ac aros yn ddi-gynnwrf o dan bwysau

  • Ymarfer ymatebion effeithiol i fygythiadau corfforol cyffredin

Adborth ar y Cwrs

"Pleserus, defnyddiol, grymusol, byddwn i’n ei argymell – Diolch 😊"

"Wedi'i ddysgu gyda synnwyr cyffredin, sesiwn werthfawr a phleserus iawn."
"Gweithgareddau rhyngweithiol addysgiadol a da iawn"

Y gost yw £850 am weithdy diwrnod llawn (10am–4pm) i hyd at 12 aelod o'ch tîm. Os oes gennych chi fwy na 12 aelod o staff, cysylltwch â ni am gynnig a phris pwrpasol.

2. Gweithdy Grymuso Pobl Ifanc

Sesiynau annibynnol neu hyd at chwe wythnos o ddosbarthiadau grymuso i bobl ifanc yn eu harddegau ac oedolion ifanc, gan ganolbwyntio ar:

  • Berthnasoedd iach

  • Amddiffyn gofod personol

  • Hunan-amddiffyniad emosiynol, meddyliol a chorfforol

  • Cydsyniad, dewis a ffiniau

 

Adborth ar y Cwrs

"Mae eich gofod yn bwysig a gallwch amddiffyn eich hun."
"Gall pobl fach amddiffyn eu hunain rhag pobl fawr."
"Mae gen i ffiniau."

Rydym yn hapus i weithio gyd chi i greu gweithdy pwrpasol i weddu i anghenion eich grŵp, am bris o £250 am sesiwn 90 munud.

Mae'r sesiynau hyn yn dechrau ar £250 am weithdy 90 munud – cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth a phris ar gyfer eich gofynion.

3. Hyfforddiant Seiliedig ar Drawma

Hyfforddiant Seiliedig ar Drawma: Mae Iaith o Bwys

  • Deall pam mae'r iaith a ddefnyddiwn mor bwysig

  • Dysgu gwrando ar leisiau pobl a'r hyn maen nhw'n ei ddweud

  • Trafodaethau manwl ynghylch trawma, beth ydyw a sut rydym yn gweithio gydag ef yn effeithiol

Adborth ar y Cwrs

“ARDDERCHOG”
“Chwa o awyr iach o’i gymharu â’r hyfforddiant corfforaethol arferol.”
“Creodd ofod go iawn a diogel i drafod popeth. Daliwch ati i wneud yr hyn rydych chi’n ei wneud."
“Roedd y cwrs yn bwerus, yn onest, heb unrhyw gyfyngiadau ac yn onest.”
“Hyfforddiant gwych iawn, yn fuddiol iawn – diolch, roedd yn werth yr amser, a rhanwyd gwybodaeth anhygoel.”

Gellir teilwra'r hyfforddiant hefyd i fynd i'r afael ag unrhyw bryderon diogelwch penodol a allai fod gan eich tîm. Gallwn ddarparu hyfforddiant pwrpasol ar gyfer eich tîm; cysylltwch â ni'n uniongyrchol i gael gwybod am argaeledd a phrisiau.

Heart Hug Icon

Noddwyr Corfforaethol

Heart Hug Icon

Mae Physical Empowerment CIC yn Gwmni Buddiant Cymunedol h.y. nid er elw. Ein nod yw cynnig ein hyfforddiant, yn rhad ac am ddim, i'r bobl sydd ei angen fwyaf. Ni allem wneud hyn heb gefnogaeth anhygoel ein noddwyr.

​​​

bottom of page