top of page
Chain breaking and becoming birds flying free

Torrwch yn rhydd

Mae gennych yr hawl i deimlo’n ddiogel yn eich croen eich hun

Heart Hug Icon

Hyfforddiant Hunan-Amddiffyn Emosiynol, Corfforol a Meddyliol

Heart Hug Icon

Mae Physical Empowerment CIC yn Gwmni Buddiannau Cymunedol h.y. nid er elw. Rydyn ni’n anelu at gynnig ein hyfforddiant, yn rhad ac am ddim, i’r bobl sydd ei angen fwyaf

Gall trawma corfforol, o unrhyw fath, adael argraff barhaol yng nghalonnau a meddyliau’r bobl sy’n ei brofi. Corfforol, emosiynol, meddyliol. Tri chornel triongl mae eu hangen nhw i gyd er mwyn adeiladu hyder ynoch chi’ch hunan ac yn eich presenoldeb corfforol eich hunan. Mae cyrsiau hunanamddiffyn traddodiadol yn dueddol o ganolbwyntio ar yr agwedd gorfforol ond er mwyn gorchfygu gorffennol trawmatig mae angen dull mwy cyfannol. 

Mae fwy neu lai pob cwrs ac adnodd a gynigir i bobl sydd wedi goroesi trawma corfforol yn canolbwyntio ar adeiladu a grymuso hyder meddyliol ac emosiynol ond ychydig iawn o sefydliadau yn y DU sy’n cynnig y cyfle i oroeswyr trawma corfforol gysylltu â’u corff a’u cryfder mewnol trwy hyfforddiant corfforol.

Rydyn ni’n ceisio newid hynny a dyma pam y crëwyd Physical Empowerment CIC; er mwyn cynnig y cyfle i gymaint o bobl â phosibl brofi’r grym o weithio’u ffordd trwy drawma corfforol a meddyliol gyda’i gilydd. Rydyn ni’n cynnig model hyfforddi cynhwysfawr sy’n cwmpasu sgiliau hunanamddiffyn corfforol, gwytnwch emosiynol, brwydro meddyliol a greddfau goroesi. 

Rydyn ni’n ymwybodol iawn o’r angen am gymorth hirdymor a bob tro rydyn ni’n cynnal cwrs neu weithdy cychwynnol, rydyn ni’n gwneud yn siŵr bod darpariaeth yn ei lle i gynnal sesiynau cyson yn yr ardal leol wedi hynny. Ein nod yn yr hirdymor yw creu rhwydwaith o ganolfannau Grymuso Corfforol sy’n cael eu cynnal gan bobl a fanteisiodd ar fynychu’r cyrsiau yn y lle cyntaf. Bydd hyn yn cymryd amser, amynedd ac arian ond dyfal donc! Unwaith y bydd rhywun wedi mynychu un o’n cyrsiau, rydyn ni’n gobeithio y byddan nhw’n dysgu arferion y byddan nhw’n eu defnyddio o ddydd i ddydd.  

Mae gan bob person yr hawl i allu dal eu pen yn uchel, edrych yn y drych a dweud, “Dw i’n dy hoffi di” neu o leiaf allu gwenu ar eu hunain. Mae Physical Empowerment CIC eisiau eich helpu chi i wneud hyn drwy ddod i adnabod eich corff a gwir ddeall y cryfder a’r grym corfforol sydd gennych oddi mewn i chi

Beth yw Ddisgwyl

Holistic Icon

Ymagwedd gyfannol
Corfforol - Emosiynol - Meddyliol

Heart Hug Support icon

Cymorth a Dealltwriaeth

Physical Self Defence Icon

Hyfforddiant Hunanamddiffyn Corfforol

Empowerment Icon

Hunanrymuso

Safe Space Icon

Gofod Diogel

Self Love Icon

Hunanymwybyddiaeth

Confidence Icon

Datblygu Hyder

Enlightenment Icon

Goleuedigaeth

Dydych Chi Ddim Ar Eich Pen Eich Hun

“Helpu pobl i wynebu eu trawma corfforol, meddyliol ac emosiynol; gyda’n gilydd.” 

Mae ein sesiynau’n cyfuno agweddau emosiynol, meddyliol a chorfforol ac yn cynnig cyfle unigryw i chi wynebu eich trawma a helpu eich corff a’ch meddwl i deimlo’n rhydd. 

Mae’r cyrsiau peilot cychwynnol yn cael eu cynnal ar gyfer grwpiau penodol iawn o fenywod ac rydyn ni’n llwyr ymwybodol bod menywod yn cael eu heffeithio mewn ffordd anghymesur o ran profi cam-drin domestig a thrais yn ystod eu hoes.  
Yn yr hirdymor, nod Physical Empowerment yw y caiff ein fframwaith ei defnyddio i weithio gydag unrhyw un sy’n gweithio er mwyn gwella ar ôl trawma

Mae Physical Empowerment CIC yn gweithio gyda hyfforddwyr gwrywaidd a benywaidd ac rydyn ni’n credu fod hyn yn bwysig; er mwyn mynd i’r afael â thrais mewn cymdeithas, rhaid i ddynion a menywod weithio gyda’i gilydd. Caiff ein cyrsiau i fenywod eu cynnal gan hyfforddwr benywaidd a rhoddir gwybod cyn bod hyfforddwr gwrywaidd yn mynychu. 

Yn Physical Empowerment CIC, rydyn ni’n deall y gall hyfforddiant corfforol ryddhau teimladau o annigonolrwydd sydd wedi cael eu cuddio am amser hir. Os yw’r hyfforddiant yn ormod ar unrhyw adeg, neu os bydd atgofion yn llifo’n ôl, mae gennym bob amser ofod diogel er mwyn i’n haelodau gymryd hoe a dod atyn nhw’u hunain. Bydd bob amser clust i wrando, neu rywun i’ch cysuro, a bydd byth bwysau arnoch i barhau gyda rhywbeth nad ydych chi’n gyffyrddus yn ei wneud. 

Physical Empowerment - Image for Home Page - IMG-20250212-WA0026-SQ.jpg
Port Talbot; Ladies' Feedback 2022

Port Talbot; Ladies' Feedback 2022

Play Video

"I benefit hugely from Philippa's tuition in self-empowerment. This is what I have been looking for for years. As a result of attending these workshops I feel well on the road to a calmer, safer and better life."

Course attendee, (Empowerment After Domestic Violence), Port Talbot, March 2022

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol

  • Facebook
  • Instagram
  • Twitter

Cysylltwch

Rydyn ni yma i helpu. Cysylltwch â ni.

Ffoniwch 01994 419243 neu 07929 125 957

neu gadewch neges i ni isod:

CORFFOROL    •    EMOSIYNOL    •    MEDDYLIOL

bottom of page