top of page

Gwasanaethau

Mae Physical Empowerment yn cynnig grwpiau a chyrsiau i helpu menywod sydd wedi goroesi cam-drin domestig a thrais rhywiol. Mae ein model hyfforddi cynhwysfawr yn cwmpasu sgiliau hunanamddiffyn corfforol, gwydnwch emosiynol a meddyliol, a greddfau goroesi. 

​

Bydd menywod sydd wedi goroesi cam-drin domestig a thrais rhywiol yn fwy hyderus, ac â’r gallu i ryngweithio â'r cymunedau y maen nhw’n byw ynddyn nhw. Bydd ganddyn nhw wybodaeth ymarferol i'w cadw'n ddiogel (emosiynol, meddyliol a chorfforol). Dyma'r effaith ehangach, hirdymor yr ydym yn credu y bydd ein sefydliad yn ei chyflawni.

Physical Empowerment - Image for Home Page - IMG-20250212-WA0026-SQ.jpg

PROSIECTAU A CHYRSIAU

Cliciwch am ragor o wybodaeth am ein grwpiau a chyrsiau hunanamddiffyn, sy'n cwmpasu sgiliau hunanamddiffyn corfforol, gwydnwch emosiynol a meddyliol, a greddfau goroesi.

ai-generated-8471284_1280-pix.jpg

GWYBODAETH DDEFNYDDIOL

Cliciwch yma i weld llinellau cymorth a grwpiau cymorth defnyddiol y gallech chi fod eu hangen, ynghyd â rhestr o lyfrau a allai fod o gymorth i chi.

AELODAU

Dim ond menywod sydd wedi cwblhau cyrsiau gyda ni all ddod yn aelodau o’r wefan; byddan nhw’n cael mynediad at wybodaeth a fideos hunangymorth, gwybodaeth am gyrsiau a lluniau o’r cyrsiau.

Os hoffech chi ymuno ag un o'n cyrsiau neu grwpiau, peidiwch ag oedi, cysylltwch â ni heddiw.

bottom of page