
Codi Arian a Rhoddion

Mae Physical Empowerment CIC yn Gwmni Buddiant Cymunedol h.y. nid er elw. Ein nod yw cynnig ein hyfforddiant, am ddim, i'r bobl sydd ei angen fwyaf. Bydd menywod sydd wedi goroesi cam-drin domestig a thrais rhywiol yn fwy hyderus, yn fwy medrus ac yn gallu rhyngweithio â'r cymunedau y maen nhw’n byw ynddyn nhw. Bydd ganddyn nhw’r wybodaeth ymarferol i'w cadw'n ddiogel (emosiynol, meddyliol a chorfforol).
​
Ni allem wneud hyn heb gefnogaeth anhygoel ein noddwyr a'n codwyr arian. Rydym mor, mor ddiolchgar i bob un ohonoch chi! Rydyn ni’n gobeithio eich bod chi’n gwybod eich bod yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i'n haelodau, sydd wedi goroesi trawma corfforol, meddyliol ac emosiynol, ond sydd dal angen help i ymdopi ag effeithiau'r trawma hwnnw.
​
​Os gallwch chi helpu gyda chyllid neu roddion, gwnewch rodd neu cysylltwch heddiw os gwelwch yn dda. Mae pob rhodd, ni waeth beth yw'r swm, wir yn newid bywydau.


Ffordd AM DDIM arall i chi gyfrannu yw drwy EasyFundraising. Bob tro y byddwch chi'n prynu rhywbeth ar-lein gydag un o dros 8,000 o bartneriaid EasyFundraising, bydd y brand yn cyfrannu at Physical Empowerment. Mae mor hawdd ac nid yw'n costio dim i chi!
​
Ewch i'n tudalen EasyFundraising a chofrestrwch heddiw. Dewiswch ychwanegu'r estyniad porwr ‘Donation Reminder’ a byddwch chi'n cyfrannu gydag un clic yn unig bob tro y byddwch chi'n prynu rhywbeth.
Digwyddiadau Codi Arian
Os ydych chi'n cynnal neu'n mynd i ddigwyddiad codi arian ar gyfer Physical Empowerment, byddem wrth ein bodd yn clywed amdano!
Cysylltwch â ni gydag unrhyw wybodaeth a lluniau os oes gennych chi rai!
Pam mae Angen Rhoddion?
Mae'r angen am ein cyrsiau yn amlwg, ac mae'n cael ei ddangos yn y nifer cynyddol o gyrsiau rydyn ni'n eu cynnig. Ar hyn o bryd rydyn ni'n gweithio ar brosiectau ledled Gorllewin Cymru ac yn Crawley, Sussex, ond dim ond hyn a hyn o ardaloedd y gallwn ni eu cwmpasu heb gyllid ychwanegol. Er ein bod ni'n teimlo'n ffodus iawn ac yn ddiolchgar i'n holl noddwyr presennol, mae'n frwydr barhaus i gael mwy o gyllid. Po fwyaf o bobl rydyn ni'n eu helpu, y mwyaf rydyn ni'n gweld faint mae'n newid bywydau a chymaint mwy y gellid eu helpu.
​
Nodau Physical Empowerment CIC yw:
-
Helpu pobl i ailintegreiddio i gymdeithas drwy eu helpu i rymuso eu hunain.
-
Rhoi cyfleoedd i bobl fod y fersiwn gorau posibl ohonyn nhw eu hunain.
-
Hyrwyddo cydweithio rhwng dynion a menywon i roi terfyn ar drais.
-
Creu ymwybyddiaeth ehangach o ddefnyddio hunanamddiffyn fel ffordd o adfer wedi trawma.
​
Gweler Adborth ein Haelodau ac Astudiaethau Achos am rai enghreifftiau o faint mae wedi helpu aelodau ein cwrs.​​​