top of page

Prosiectau

Mae Physical Empowerment CICl yn canolbwyntio ar bobl ac yn cael ei arwain gan ddefnyddwyr. Mae grwpiau a chyrsiau Physical Empowerment wedi'u teilwra ar gyfer anghenion yr unigolyn/grŵp. Mae hyn yn allweddol gan fod y symudiadau hunanamddiffyn a phynciau seminarau yn wahanol.

​

Nodau Physical Empowerment CIC yw:

  1. Helpu pobl i ailintegreiddio i gymdeithas drwy eu helpu i rymuso eu hunain.

  2. Rhoi cyfleoedd i bobl fod y fersiwn gorau posibl ohonyn nhw eu hunain.

  3. Hyrwyddo cydweithio rhwng dynion a menywod i roi terfyn ar drais.

  4. Creu ymwybyddiaeth ehangach o ddefnyddio hunanamddiffyn fel ffordd o adfer wedi trawma.

​

Roedd ein ffocws cychwynnol ar weithio gyda thri grŵp penodol: goroeswyr cam-drin domestig, goroeswyr treisio a cham-drin rhywiol a menywod ym maes puteindra. Wrth ddatblygu, cynllunio a rhedeg y prosiectau hyn, daeth yn amlwg bod grwpiau eraill yn y gymuned angen help, fel pobl ifanc a phobl hŷn.

​

Mae Physical Empowerment CIC yn trin pawb fel unigolyn. Ar gyrsiau, rydym yn chwalu rhwystrau ac yn gweithio fel tîm gyda'r mynychwyr. Does dim "nhw" a "ni". Po fwyaf o bobl sy'n gweithio gyda'i gilydd mewn cymuned, y mwyaf o wydnwch y byddwn ni’n ei feithrin.

​

Mae cyrsiau wedi'u hanelu at bobl sydd naill ai wedi cael eu cyfeirio atom drwy asiantaeth neu sydd wedi cyfeirio eu hunain atom ni. Ein nod yw gallu cynnig ein hyfforddiant, am ddim, i'r bobl sydd ei angen fwyaf.

​

Mae hyn yn bosibl oherwydd y sefydliadau gwych sy'n ariannu ein prosiectau: DIOLCH YN FAWR! Gallwch weld logos ein harianwyr presennol a'n sefydliadau partner ar waelod y dudalen hon.

​

Ar hyn o bryd rydym yn gweithio ar brosiectau ledled Gorllewin Cymru a hefyd yn Crawley, Sussex. Cysylltwch os oes gennych ddiddordeb mewn Physical Empowerment ar gyfer eich ardal; os ydych chi’n ddigon penderfynol mae modd goresgyn unrhyw beth!

Heart hug icon

Goroeswyr Trais Domestig

Cwrs Corfforol/ Cymorth Ar-lein

Rydym wedi bod yn cynnal cyrsiau a sesiynau dilynol ym Mhort Talbot ers 2021. Mae gennym ystafell hyfforddi barhaol gyda'n swyddfa ein hunain, ystafell llesiant a chegin. Rydym yn cynnal cyrsiau rheolaidd yma.

​

Cynhaliom brosiectau yn Llanelli am ddwy flynedd ac rydym yn mynd i barhau â chyrsiau yn Sir Gaerfyrddin o leoliad newydd yng Nghaerfyrddin o fis Mai 2025.

​

Byddwn hefyd yn dechrau cyrsiau yn Sir Benfro (Hwlffordd) o fis Mai 2025.

​

Mae'r cyrsiau hyn ar gyfer unrhyw un sydd wedi profi cam-drin domestig; yn hanesyddol neu'n ddiweddar. Mae croeso hefyd i bobl sy'n gweithio neu'n gwirfoddoli gyda goroeswyr cam-drin domestig fynychu'r cyrsiau hyn.

Physical empowerment icon

Pobl Ifanc

Cwrs Corfforol/ Cymorth Ar-lein

Mae pryder ac iselder yn gyffredin ymhlith pobl ifanc. Mae hyn yn aml yn mynd law yn llaw â hunan-niweidio ac ymddygiad trawmatig arall. Yn aml mae hanes o drais domestig yn rhywle yn hanes y teulu.

​

Ym mis Tachwedd 2024, cynhaliwyd cwrs peilot gennym gyda myfyrwyr yng Ngholeg Afan ym Mhort Talbot; roedd yr adborth yn gadarnhaol ac rydym yn edrych ymlaen at gynnal mwy o sesiynau ar y cyd ag ysgolion a cholegau lleol.

​

Y nod hirdymor yw hyfforddi llysgennad ym mhob lleoliad fel y gallan nhw gymryd rheolaeth o'u taith hunanamddiffyn a grymuso eu hunain.

.

Holding hands heart icon

Pobl HÅ·n

Cwrs Corfforol/ Cymorth Ar-lein

Ni waeth beth yw ein hoedran, rydym i gyd yn wynebu heriau mawr drwy gydol ein bywydau. Gall y broses heneiddio wneud ymatebion corfforol i straen yn anoddach. Gall trawma sy'n tueddu i ddod ynghyd â heneiddio fod yn bethau fel gorfod symud allan o'ch cartref gydol oes (trawma trosiannol), colli partner, dirywiad mewn iechyd corfforol, emosiynol a meddyliol neu'r teimlad hwnnw o fod yn 'rhan sbâr' mewn cymdeithas.

​

Ers 2021, rydym wedi cynnal amrywiaeth o sesiynau hyfforddi gydag Age Connects Castell-nedd Port Talbot. Rydym yn tueddu i roi cyflwyniad sylfaenol i hunanamddiffyn emosiynol, meddyliol a chorfforol ac rydym bob amser yn cael adborth gwych.

​

Mae rhai o'r menywod sydd wedi cwblhau cwrs Physical Empowerment eu hunain wedi bod ac wedi helpu i addysgu'r grwpiau hÅ·n. Mae hwn wedi bod yn brofiad gwych i bawb a gymerodd ran ac yn enghraifft wych o rymuso rhwng y cenedlaethau.
 

Heart hug icon

Gyda'n Gilydd Tuag at Yfory

Cwrs Corfforol/ Cymorth Ar-lein

Mae hwn yn brosiect ar y cyd â Playful Life CIC sy'n cael ei ariannu gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol (Pobl a Lleoedd).

​

Mae staff a gwirfoddolwyr o'r ddau sefydliad yn rhan o gyflawni'r prosiect hwn. Rydym yn cynnal cynllun croesgyfeirio ac yn anelu at greu lle i fenywod a phlant sy'n eu galluogi i weithio trwy unrhyw drawma o’r gorffennol ac yn eu grymuso i symud ymlaen mewn ffordd gadarnhaol.

​

Mae ein dau sefydliad eisoes yn gwybod bod yr hyn a wnawn yn gwneud gwahaniaeth sy'n newid bywydau ac rydym yn gwbl hyderus y bydd gweithio gyda'n gilydd i symud ymlaen a chynnig dull teulu cyfan yn gwneud hyd yn oed yn fwy o wahaniaeth yn ein cymuned a thu hwnt.

​

Mae atgyfeiriadau yn seiliedig ar asesiad achos unigol.
 

Heart flourishing out of earth icon

Goroeswyr Trais a Cham-drin Rhywiol

Cwrs Corfforol/ Cymorth Ar-lein

Ar hyn o bryd rydym yn hyfforddi ein tîm ar weithio gyda goroeswyr trais a cham-drin rhywiol. Mae hyn yn hanfodol gan ein bod am sicrhau bod popeth a wnawn wedi’i lywio gan drawma a bod gan y tîm gefnogaeth lawn y tu ôl iddo.

​

Rydym yn credu y gall hunanamddiffyn wedi'i lywio gan drawma wneud gwahaniaeth sy'n newid bywydau pobl sydd wedi cael eu treisio, eu cam-drin yn rhywiol neu eu bradychu mewn unrhyw ffordd rywiol arall.

​

Rydym wrthi'n ysgrifennu'r cynllun ar gyfer cwrs penodol ar gyfer y grŵp hwn. Mae'n cael ei ysgrifennu gan gyd-oroeswyr a bydd yn cael ei lunio gan y rhai y mae'n cael ei greu i'w helpu.

Hands with heart icon

Menywod ym maes Puteindra

Cwrs Corfforol/ Cymorth Ar-lein

Ar ôl cael ein gwrthod gan sawl ariannwr yn 2021, cytunodd The Allen Lane Foundation i'n cefnogi a chynhaliwyd prosiect arloesol gyda Streetlight UK, sy'n arbenigo mewn gweithio gyda menywod ym maes puteindra.

​

Cynhaliwyd sesiwn hyfforddi ar-lein gyda staff a gwirfoddolwyr, ac yna sesiwn hyfforddiant diwrnod llawn wyneb yn wyneb lle dysgodd staff a gwirfoddolwyr sgiliau hunanamddiffyn sylfaenol a datblygu ymwybyddiaeth o'r gyfraith ynghylch hunanamddiffyn yn y DU.

​

Yna, fe greon ni fideo hyfforddi i staff a gwirfoddolwyr ar gyfer y dyfodol a llyfr gwaith a gynlluniwyd gennym fel y gellir ei ddefnyddio'n hawdd i gael rhannau o Physical Empowerment yn uniongyrchol i'r menywod y mae Streetlight UK yn gweithio gyda nhw.

​

Os ydych chi'n sefydliad sy'n gweithio gyda menywod ym maes puteindra, cysylltwch â ni i weld sut y gallwn ni eich helpu.

Os hoffech chi ymuno ag un o'n cyrsiau neu grwpiau, peidiwch ag oedi, cysylltwch â ni heddiw.

​Rydym yn credu bod angen i ddynion a menywod gydweithio i greu newid cymdeithasol gwirioneddol. Rydym yn helpu pobl i rymuso eu hunain o'r tu mewn allan.

​

NODYN PWYSIG: Os byddwch chi'n mynychu cwrs Physical Empowerment, ni fydd disgwyl i chi byth gymryd rhan mewn unrhyw weithgaredd neu symudiad corfforol nad ydych chi'n hapus amdano. Y syniad yw gwthio'ch hun a cheisio wynebu'ch ofnau ond mae'n bwysig eich bod chi'n gwneud hynny ar eich cyflymder eich hun. Nid oes rhaid i chi ruthro i gwblhau unrhyw beth ar y cwrs, dyna'n rhannol pam mae'r sesiynau dilynol ar gael wedyn.

 

Rydyn ni yma i weithio gyda chi, nid i'ch dychryn chi. Bydd pob cwrs yn cael ei gynllunio fel bod lle diogel lle gall pobl fynd i gael hoe a bydd pobl wrth law os ydych chi eisiau clust i wrando.

​

"Nid cyfres o dechnegau’n unig yw hunanamddiffyn, mae’n gyfres o gredoau ac mae’n dechrau gyda’r gred eich bod chi’n werth eich amddiffyn." Rorion Gracie

bottom of page