top of page
Physical Empowerment

Team    |    Feedback    |    Case Studies    |    Blog    |    Gallery

Heart Hug Icon

Amdanom ni

Heart Hug Icon

Wedi'i sefydlu yn 2021, mae Physical Empowerment CIC yn cynnig cyfle i bobl brofi grym gweithio trwy drawma corfforol a meddyliol gyda'i gilydd. Rydym yn cynnig model hyfforddi cynhwysfawr, sy'n cwmpasu sgiliau hunanamddiffyn corfforol, gwydnwch emosiynol, brwydro meddyliol a greddfau goroesi. Rydym yn Gwmni Buddiant Cymunedol h.y. nid er elw. Ein nod yw cynnig ein hyfforddiant, am ddim, i'r bobl sydd ei angen fwyaf.

​

Gall trawma corfforol, o unrhyw fath, adael argraff barhaol yng nghalonnau a meddyliau'r bobl sy'n ei brofi. Corfforol, emosiynol, meddyliol. Tri chornel triongl; mae eu hangen nhw i gyd er mwyn meithrin hyder ynoch chi'ch hun ac yn eich presenoldeb corfforol eich hun. Mae cyrsiau hunanamddiffyn traddodiadol yn tueddu i ganolbwyntio ar yr agwedd gorfforol ond er mwyn goresgyn gorffennol trawmatig mae angen dull mwy cyfannol.

​

Mae fwy neu lai pob cwrs ac adnodd a gynigir i bobl sydd wedi goroesi trawma corfforol yn canolbwyntio ar feithrin a grymuso hyder meddyliol ac emosiynol ond ychydig iawn o sefydliadau yn y DU sy'n cynnig cyfle i oroeswyr trawma corfforol ddod i gysylltiad â'u corff a'u cryfder mewnol eu hunain trwy hyfforddiant corfforol.

​

Rydyn ni’n ymwybodol iawn o’r angen am gymorth hirdymor a bob tro rydyn ni’n cynnal cwrs neu weithdy cychwynnol, rydyn ni’n gwneud yn siŵr bod darpariaeth yn ei lle i gynnal sesiynau cyson yn yr ardal leol wedi hynny. Unwaith y bydd rhywun wedi mynychu un o’n cyrsiau, rydyn ni’n gobeithio y byddan nhw’n dysgu arferion y byddan nhw’n eu defnyddio o ddydd i ddydd.

​

Mae gan bob person yr hawl i allu dal ei ben yn uchel, edrych yn y drych a dweud, “Dw i’n dy hoffi di” neu o leiaf allu gwenu ar ei hun. Mae Physical Empowerment CIC eisiau eich helpu chi i wneud hyn drwy ddod i adnabod eich corff a gwir ddeall y cryfder a’r grym corfforol sydd gennych y tu mewn i chi.

Dydych Chi Ddim Ar Eich Pen Eich Hun

“Helpu pobl i wynebu eu trawma corfforol, meddyliol ac emosiynol; gyda’n gilydd.” 

​

Mae ein sesiynau’n cyfuno agweddau emosiynol, meddyliol a chorfforol ac yn cynnig cyfle unigryw i chi wynebu eich trawma a helpu eich corff a’ch meddwl i deimlo’n rhydd. 

​

Rydym yn cydnabod bod menywod yn cael eu heffeithio'n anghymesur o ran profi trais a cham-drin domestig yn ystod eu bywydau.

Yn y tymor hwy, nod Physical Empowerment yw y caiff ein fframwaith ei ddefnyddio i weithio gydag unrhyw un sy'n gweithio i wella o drawma.

​

Mae Physical Empowerment CIC yn gweithio gyda hyfforddwyr gwrywaidd a benywaidd ac rydyn ni’n credu fod hyn yn bwysig; er mwyn mynd i’r afael â thrais mewn cymdeithas, rhaid i ddynion a menywod weithio gyda’i gilydd. Caiff ein cyrsiau i fenywod eu cynnal gan hyfforddwr benywaidd a rhoddir gwybod cyn bod hyfforddwr gwrywaidd yn mynychu. 

​

Yn Physical Empowerment CIC, rydyn ni’n deall y gall hyfforddiant corfforol ryddhau teimladau o annigonolrwydd sydd wedi cael eu cuddio am amser hir. Os yw’r hyfforddiant yn ormod ar unrhyw adeg, neu os bydd atgofion yn llifo’n ôl, mae gennym bob amser ofod diogel er mwyn i’n haelodau gymryd hoe a dod atyn nhw’u hunain. Bydd bob amser clust i wrando, neu rywun i’ch cysuro, a bydd byth bwysau arnoch i barhau gyda rhywbeth nad ydych chi’n gyffyrddus yn ei wneud. 

Kitten looking at lion reflection

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol

  • Facebook
  • Instagram
  • Twitter

Cysylltwch

Rydyn ni yma i helpu. Cysylltwch â ni.

Ffoniwch 07929 125 957

neu gadewch neges i ni isod:

Diolch am gyflwyno

bottom of page