
Atgyfeiriadau
Helo a chroeso i dudalen atgyfeiriadau Physical Empowerment.
​
Gallwch chi ddefnyddio'r ffurflenni ar y dudalen hon i gyfeirio eich hun neu rywun arall i gyrsiau Physical Empowerment. Gwnewch yn siŵr eich bod yn llenwi'r holl adrannau a rhoi cymaint o fanylion â phosibl. Mae'r holl wybodaeth a dderbynnir yn gyfrinachol ac ni chaiff ei rhannu.
​
Os byddai'n well gennych gwblhau'r atgyfeiriad dros y ffôn mae ein rhifau ar ein tudalen, Cysylltwch â ni.
​
Sylwch, er mwyn diogelwch pawb, nid ydym yn gweithio gydag unrhyw un sydd mewn perthynas â throseddwr hysbys.
Os ydych chi'n atgyfeirio rhywun arall at ein gwasanaeth, llenwch eich gwybodaeth chi yn rhan uchaf y ffurflen isod, ac yna cwblhewch ail ran y ffurflen hefyd.
Os ydych chi'n atgyfeirio'ch hun, a fyddech cystal â gadael y rhan gyntaf yn wag a llenwi 'Manylion y Cleient', ychydig ymhellach i lawr y ffurflen.
Cwblhewch fanylion y client isod. Hefyd cwblhewch y rhan yma, os ydych chi’n cyfeirio eich hun.
Gwybodaeth am y Cyrsiau
Mae pob un o'n cyrsiau'n para deuddeg wythnos; sesiwn gyflwyniadol, y cwrs deg wythnos a sesiwn adrodd yn ôl. Yna rydym yn cynnig sesiynau dilynol rheolaidd i'r rhai sy'n gallu mynychu.
Gofynnwn i bobl geisio dod i bob sesiwn er mwyn iddynt gael y budd mwyaf o'r cwrs.
Rydym yn cynnal tri chwrs y flwyddyn ym mhob lleoliad gyda dyddiadau cychwyn ym mis Ionawr, mis Mai a mis Medi.
Port Talbot: cynhelir cyrsiau ddydd Mawrth.
Caerfyrddin: cynhelir cyrsiau ddydd Llun.
Sir Benfro: cynhelir cyrsiau ddydd Iau.
Crwley: mae hwn yn brosiect ar wahân a gynhelir ar y cyd â The Self Defence Centre CIC.
​
Cysylltwch os hoffech atgyfeirio rhywun ond nad yw eich ardal wedi'i rhestru. Rydym yn cynnig sesiynau un-i-un ond yn aml mae angen cyllid penodol ar gyfer y rhain.
​
Os bydd gennych unrhyw gwestiynau penodol, cysylltwch â ni gan ddefnyddio ein tudalen gyswllt.
