Yn cwmpasu Agweddau Emosiynol, Corfforol a Meddyliol hyfforddiant Hunanamddiffyn.
Polisi Preifatrwydd
Rydym yn cymryd eich diogelwch data o ddifri ac nid ydym ond yn casglu gwybodaeth sydd ei hangen arnom i roi’r gwasanaeth gorau posibl i chi, yn ogystal â’r profiad gorau ar ein gwefan. NID YDYM yn rhoi unrhyw ddata i drydydd partïon at ddibenion marchnata. Nid ydym yn gwerthu data. Nid ydym yn rhannu data oni bai ein bod yn cael ein gorfodi i wneud hynny trwy gyfraith.
​
Pwy ydym ni
Ni yw Physical Empowerment CIC. Mae CIC yn golygu Community Interest Company' (Cwmni Buddiant Cymunedol), ac felly rydym yn gwmni ‘nid er elw’. Cyfeiriad ein gwefan yw physicalempowerment.co.uk. Cysylltwch â Philippa Scannell ar 07929 125957 neu ddefnyddio’r ffurflen gyswllt ar y wefan ar gyfer unrhyw ymholiadau.
Pa ddata personol rydyn ni’n ei gasglu a pham rydym yn ei gasglu
Rydym yn casglu’r wybodaeth bersonol yr ydych yn ei rhoi i ni pan fyddwch yn llenwi ein ffurflen gyswllt ar-lein. Mae hyn yn cynnwys eich enw, cyfeiriad e-bost, rhif ffôn a’ch ymholiad. Rydym yn casglu’r wybodaeth hon i’n galluogi i gysylltu â chi er mwyn ymateb i’ch ymholiad neu gyflawni’r gwasanaethau y gofynnwyd amdanynt. Y sail gyfreithiol ar gyfer prosesu’r data hwn yw ‘caniatâd’: Rydych wedi rhoi caniatâd clir i ni er mwyn i chi brosesu eich data personol ar gyfer y diben penodol o gyflwyno ymholiad trwy gyfrwng ein ffurflen ar y wefan.
​
Pe byddech yn cysylltu â ni dros y ffôn neu trwy ddull arall o gysylltu, gydag ymholiad neu er mwyn cofrestru ar gyfer ein gwasanaethau, mae’r un sail cyfreithiol o ‘ganiatâd’ yn berthnasol. Rydych wedi rhoi caniatâd clir i ni er mwyn i chi brosesu eich data personol ar gyfer y diben penodol o ymateb i’ch ymholiad. Rydym yn casglu’r data personol sydd ei angen er mwyn rhoi’r gwasanaeth gorau posibl i chi.
​
Rydym hefyd yn defnyddio’r sail gyfreithiol neu ‘fuddiannau cyfreithlon’. Rydym yn casglu eich data er mwyn i ni ddarparu‘r wybodaeth neu’r gwasanaethau yr ydych wedi gofyn amdanynt, i chi.
​
Pa ddata technegol rydym yn ei gasglu a pham rydym yn ei gasglu
Er mwyn sicrhau bod ein gwefan ar ei gorau i ddefnyddwyr, rydym yn casglu data technegol. Gallai hyn gynnwys ategion trydydd parti sy’n casglu data technegol er mwyn sicrhau’r gwasanaethau gorau. Rydym yn defnyddio Google Analytics er mwyn rhoi’r profiad gorau i ddefnyddiwr ar ein gwefan. Gall hyn gynnwys data technegol fel y tudalennau yr ydych yn ymweld â nhw, yr amser a dreulir ar bob tudalen, eich lleoliad cyffredinol (dinas), porwr, ac ati. Mae gan Google ei wybodaeth GDPR ei hun y gallwch ei weld ar wefan Google. Caiff ein data Google Analytics ei gadw (ar Google Analytics) am gyfnod amhenodol. Gallwch ddewis peidio cael eich tracio trwy newid eich gosodiadau pori, er enghraifft, drwy fynd yn ‘incognito’ neu ‘breifat’, neu trwy newid eich gosodiadau Cwcis.
Sut rydym yn cadw eich data a pha mor hir rydym yn cadw eich data
Caiff eich data ei gadw ar ein cofnodion e-bost, systemau cyfrifiadur, dyfeisiadau symudol ac mewn dyddiadur corfforol. Caiff y data a gedwir ei ddefnyddio i’n galluogi ni i ddarparu’r gwasanaethau yr ydych wedi gofyn amdanynt. Caiff y rhan fwyaf o ddata ei ddileu pan fydd ymholiad wedi ei ateb, ond efallai y cedwir gwybodaeth am gwsmer a rhai ymholiadau pe byddem yn credu y gallai’r wybodaeth gael ei defnyddio eto pe byddech yn defnyddio ein gwasanaethau yn y dyfodol. Os nad ydych am i ni gadw data o’r fath, rhowch wybod i ni ac fe’i tynnwn oddi yno.
​
Caiff data technegol a data gwefan dadansoddiadol ei gadw ar Google Analytics a chaiff ei gadw am gyfnod amhenodol.
Gyda phwy yr ydym yn rhannu eich data
Mae mynediad cyfyngedig iawn i’ch data chi. Dim ond y wybodaeth sydd ei hangen arnynt i gynnal eu gwasanaethau a gaiff Gweithwyr Physical Empowerment CIC. Nid ydym yn rhannu eich data gydag unrhyw drydydd parti at ddibenion marchnata.
Mae gan ein cyfrifydd fynediad i’r wybodaeth sy’n angenrheidiol iddynt baratoi ein cyfrifon. Maent yn destun Dyletswydd Cyfrinachedd. Ein datblygwyr gwefan yw With Hindsite Ltd. Mae ganddynt fynediad posibl i gynnwys ffurflenni gwe. Gallwch weld eu Polisi Preifatrwydd yma.
Pa hawliau sydd gennych dros eich data
O dan y GDPR dyma eich hawliau:
​
-
yr hawl i gael gwybod
-
hawl mynediad
-
yr hawl i gywiro
-
yr hawl i ddileu
-
yr hawl i gyfyngu ar brosesu
-
yr hawl i gludadwyedd data
-
yr hawl i wrthwynebu
-
yr hawl i dynnu caniatâd yn ôl
I grynhoi, gallwch gysylltu â ni i weld pa ddata personol yr ydym yn ei gadw amdanoch chi a sut yr ydym yn ei ddefnyddio a’i gadw. Gallwch ofyn i unrhyw rai o’ch manylion gael eu newid neu eu tynnu oddi yno. Pe byddech yn dymuno gweithredu unrhyw un o’r hawliau uchod, cysylltwch â ni. Gallwch ddarllen rhagor am eich hawliau mewn manylder fan hyn.
Gallwch ofyn i dderbyn copi o’r data personol yr ydym yn ei gadw amdanoch chi, gan gynnwys unrhyw ddata yr ydych wedi ei ddarparu i ni. Gallwch hefyd ofyn i ni ddileu unrhyw ddata personol yr ydym yn ei gadw amdanoch chi. Nid yw hyn yn cynnwys unrhyw ddata yr ydym yn rhwymedig i’w gadw at ddibenion gweinyddol, cyfreithiol neu ddiogelwch.
Gwybodaeth ychwanegol
Mae ein gwefan wedi ei diogelu gan SSL (https).
Gwybodaeth gyswllt
Gallwch gysylltu â ni drwy ffonio 07929 125957 neu drwy ddefnyddio’r ffurflen gyswllt ar ein gwefan.
​
Pa weithdrefnau torri rheolau data sydd gennym yn eu lle
Os down yn ymwybodol o dorri rheolau data, byddwn yn rhoi gwybod i bob un o’n cwsmeriaid sydd wedi eu heffeithio. Byddwn hefyd yn rhoi gwybod i’r ICO (Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth) o fewn y 72 awr penodol, os yw hi’n debygol y bydd risg i hawliau a rhyddid pobl, er enghraifft, os yw data personol wedi ei ddwyn neu ei basio ymlaen i barti anawdurdodedig.
​
​
​
​
Last reviewed June 2024