Swyddi ar gael
Rydym yn Gwmni Buddiant Cymunedol, h.y. nid er elw. Rydym yn aml yn chwilio am wirfoddolwyr i helpu gyda'n dosbarthiadau a'n busnes. Diolch i grantiau a chefnogaeth gan ein harianwyr gwych, mae gennym swyddi cyflogedig ar gael weithiau hefyd. Bydd unrhyw swyddi sydd ar gael yn cael eu dangos isod.
Physical Empowerment CIC yn cynnig model cynhwysfawr o hyfforddiant hunanamddiffyn, am ddim, i'r rhai sydd ei angen fwyaf. Mae'r hyfforddiant yn cwmpasu sgiliau hunanamddiffyn corfforol, gwydnwch emosiynol a meddyliol, a greddfau goroesi. Mae swyddi'n amrywio o gymorth gyda dosbarthiadau, i redeg y busnes o ddydd i ddydd a marchnata’r busnes.
​
Rydym yn gweithredu mewn amrywiol leoliadau yn Ne Cymru, gan gynnwys Port Talbot a Sir Gaerfyrddin, yn ogystal â Crawley a Llundain. Rydym yn gobeithio yn y pen draw y byddwn yn gallu cynnig ein gwasanaethau i'r rhai mewn angen ledled Cymru gyfan a'r DU.
Os ydych chi'n meddwl y byddech chi'n ychwanegiad cadarnhaol at dîm Physical Empowerment CIC, yna cysylltwch â ni. Mae unrhyw gymorth yn cyfrif. Gallech chi wneud gwahaniaeth a helpu i greu bywyd cadarnhaol i rywun.

Swydd ar gael
Swyddi amrywiol ar gael
Mae ein gwirfoddolwyr yn rhan allweddol o gwmni Physical Empowerment CIC. Rydym yn dîm agos sy’n chwerthin, crïo a thyfu gyda’n gilydd. Mae gwneud gwahaniaeth cadarnhaol ym mywydau pobl sydd wedi byw trwy drawma, yn gallu rhoi boddhad mawr.
​
Ar hyn o bryd rydyn ni’n gweithio ar brosiectau yng Nghastell Nedd Port Talbot, Crawley a Llundain ac rydym yn gobeithio cynnal ein gwasanaeth ar draws Cymru a’r Deynas Unedig. Cysylltwch â ni os oes diddordeb gennych.
​
Mae’r swyddi yn amrywio o hunan amddiffyn, gwaith gweinyddol a hysbysebu a rheoli busnes. Mae pob gronyn o gymorth yn bwysig i ni.
​
​Rydym yn credu bod angen i ddynion a menywod gydweithio i greu newid cymdeithasol gwirioneddol. Rydym yn helpu pobl i rymuso eu hunain o'r tu mewn allan.
​
"Nid cyfres o dechnegau’n unig yw hunanamddiffyn, mae’n gyfres o gredoau ac mae’n dechrau gyda’r gred eich bod chi’n werth eich amddiffyn." Rorion Gracie