top of page
philippa7278

Hunanamddiffyn: ffordd o annog trais?

Fel rhywun sy’n addysgu hunanamddiffyn, mae’n syndod faint o bobl dw i’n cwrdd â nhw sydd yn credu bod dysgu amddiffyn eich hunan yn eich troi’n berson sy’n reddfol dreisgar, sydd yn barod i “ymladd” ar unrhyw gyfle. O’m profiad i, ni allai hyn fod yn bellach o’r gwir.


The word 'STOP'

A dweud y gwir, mae dysgu hunanamddiffyn sy’n seiliedig ar realiti, gyda hyfforddwr neu glwb da, yn eich gwneud yn llai tebygol o “ymladd” o gwbl am eich bod yn dysgu parchu trais a faint o niwed a phoen y gall achosi os caiff ei ddefnyddio mewn ffordd ymosodol. Fyddwch chi ddim yn cael eich addysgu i edmygu trais na meddwl ei fod yn cŵl. Rydych chi’n sylweddoli faint o reolaeth sydd gan un person dros un arall os ydyw’n gafael yn ei lwnc. Cewch eich addysgu i ddeall os yw rhywun yn eich tagu, nad oes gennych chi lawer o amser i ymateb.


Bydd athro hunan amddiffyn da yn eich addysgu mai’r rhan gyntaf o amddiffyn eich hun yw bod yn fwy ymwybodol o’r hyn sydd o’ch amgylch a dysgu ymddiried yn eich greddf. Pethau syml fel cerdded â phendantrwydd, peidio bod â’ch trwyn yn eich ffôn pan fyddwch chi allan, peidio gwisgo’ch clustffonau yn y ddwy glust ac anymwybyddu’r byd o’ch cwmpas. Os yw’r person rydych wedi cwrdd â nhw’n rhoi teimlad annifyr i chi na allwch chi ei esbonio, mae siŵr o fod rheswm bod eich corff yn teimlo hynny. Os yw’r syniad o gerdded lawr heol benodol yn teimlo’n anniogel heno, peidiwch â mynd y ffordd yna – ewch y ffordd arall.


Y system dw i’n ei dysgu yw CROSS Krav Maga. Mae CROSS yn golygu Combat Ready Offensive Survival System. Yr amddiffyniad cyntaf y maen nhw’n ei ddysgu i chi yw i osgoi sefyllfa lle y bo’n bosibl, a phan nad yw hynny’n opsiwn, mae’n eich dysgu i ddelio â’r bygythiad, ymryddhau a dianc o’r sefyllfa mor gyflym ac mor ddiogel â phosibl. Y rheol gyntaf sydd gennym yn y gampfa yw, “Dim Egos.”


Scales symbol with female and male icon on each side of the scales. The scale is evenly balanced.

Roeddwn i mewn perthynas â dyn llawer yn hŷn na fi pan oeddwn yn fy arddegau, roedd ganddo dymer gwyllt ar y gorau ond pan oedd wedi bod yn yfed alcohol neu gymryd cocaine roedd e’n frawychus. Roedd wynebu trais mor amrwd a chorfforol yn sioc i fy system a chymerais flynyddoedd i ddod i delerau â’r pethau ddigwyddodd tra’r oeddwn yn y berthynas honno. Pan ddechreuais i hyfforddi mewn crefftau ymladd, roeddwn yn teimlo’n gryfach ynof fi fy hun ond o dan y cwbl roedd ofn mawr yn dal i fod arna i.


Unwaith i fi ddod o hyd i hunanamddiffyn sy’n seiliedig ar realiti, doedd dim edrych yn ôl. Dysgu am drais, beth sy’n ei achosi, sut i ddelio gydag e ar lafar ac yna’n gorfforol os oes angen. Deall y gallai’r dyn yna, pan oedd yn fy nhagu, fod wedi dal i fy nhagu a’m lladd i. Roedd dysgu os yw rhywun byth yn fy nhagu eto, bod ffordd o ddod allan ohono a dianc o’r sefyllfa, yn rymusol iawn i fi. Ond wnaeth hynny ddim gwneud i mi fod eisiau mynd allan a thagu pobl neu ddechrau ymladd mewn meysydd parcio tafarnau. Fe wnaeth i mi deimlo fy mod yn gallu cerdded lawr y stryd gyda fy ysgwyddau’n ôl a theimlo’n fwy diogel.


Dw i wedi hyfforddi gyda llawer o ddynion a rhywfaint o fenywod dros y blynyddoedd ac mae bron pob un ohonyn nhw wedi bod yn ffantastig i hyfforddi gyda nhw. Pobl sydd eisiau teimlo’n diogel a gallu amddiffyn eu hunain a’i hanwyliaid yn well. Does yr un ohonyn nhw’n dreisgar, a dweud y gwir, byddwn i’n dweud mai nhw yw’r bobl fwyaf tebygol o dawelu unrhyw sefyllfaoedd posibl neu, hyd yn oed yn well, eu hosgoi yn y lle cyntaf!


Silhouette of a woman with head back, arms flung wide, feeling free

Os hoffech siarad â ni, ymuno ag un o’n cyrsiau neu os oes angen ein help arnoch chi, cysylltwch â ni!


Comentários


bottom of page