We're so grateful to Social Business Wales for their help over the past 8 months. Their guidance and knowledge has been invaluable. We're looking forward to their continued support and we'd certainly recommend them to other startup businesses. We're pleased to share the following case study of their work with Physical Empowerment below. Don't miss the video too!
ASTUDIAETH ACHOS PHYSICAL EMPOWERMENT
Dros yr wyth mis diwethaf, mae Busnes Cymdeithasol Cymru wedi bod yn cefnogi Physical Empowerment, cwmni buddiannau cymunedol sy’n cynnig hyfforddiant hunanamddiffyn emosiynol, corfforol a meddyliol sy’n helpu’r rhai sy’n ei dderbyn i oresgyn trawma trais domestig.
Mae David Brooks, un o’n Hymgynghorwyr Busnes, wedi gweithio’n agos gyda Philippa Scannell, Sylfaenydd Phrif Swyddog Gweithredol Physical Empowerment, i ddarparu cyngor ar bolisi a recriwtio yn ogystal â chymorth busnes cymdeithasol arall.
YNGLŶN Â PHYSICAL EMPOWERMENT
Fe wnaeth Philippa hyfforddi mewn amrywiaeth o grefftau ymladd a disgyblaethau hunanamddiffyn a chanfod bod llawer o fenywod yn dod ati hi am gymorth a chyfarwyddyd. O ganlyniad, sefydlwyd Physical Empowerment. Mae Philippa yn ymhelaethu: “Roeddwn i eisiau helpu menywod i fyw heb ofn trwy gyfrwng hunanamddiffyn gan fy mod i’n gwybod ei fod wedi gweithio i mi, ond cymerodd flynyddoedd o hyfforddiant i mi ddod o hyd i’r system a wnaeth fy helpu i ryddhau fy nghorff o atgofion o’r gorffennol. Roeddwn i eisiau rhoi’r rhyddid hwn i fenywod eraill mewn fformat croesawgar. Mae hunanamddiffyn yn gorfforol, yn emosiynol, ac yn feddyliol a phan fydd y tri ffactor hynny yn gweithio gyda’i gilydd, mae newidiadau yn digwydd. Ceir llawer o gyrsiau sydd ar gael sy’n canolbwyntio ar y meddyliol a’r emosiynol ond sy’n anghofio am yr elfen gorfforol.”
Mae Physical Empowerment wedi’i leoli ym Mhort Talbot ac wedi cael effaith ddofn ar y cymunedau y mae wedi eu cyrraedd. Mae David yn esbonio: “Mae Philippa a Physical Empowerment wedi cael effaith eithriadol o fuddiol ar fywydau defnyddwyr gwasanaeth yn ogystal â’u hyder a’u hunan-barch. A thros amser wrth i’r busnes dyfu, bydd yn gallu cefnogi mwy o bobl fyth.”
EIN GWAITH GYDA PHYSICAL EMPOWERMENT
Fel busnes cymdeithasol â dyheadau i gyrraedd defnyddwyr gwasanaeth cenedlaethol, roedd Philippa yn gwybod ei bod yn bwysig sicrhau ei sefyllfa bresennol yn barod ar gyfer cam mawr nesaf Physical Empowerment. Cyflwynwyd Philippa i David mewn ffair ariannu leol yn Sandfields, Port Talbot, y mae’n ei mynychu bob blwyddyn; yno, esboniodd David i Philippa y cyngor a’r cymorth y gallai Busnes Cymdeithasol Cymru eu cynnig iddi i dyfu ei busnes.
Yn gyntaf, roedd Philippa yn barod i gyflogi ei gweithiwr cyntaf. Mae David yn ymhelaethu: “Roedd Philippa ar y pwynt lle’r oedd hi’n barod i gyflogi staff ac nid dibynnu ar wirfoddolwyr yn unig. Felly, anfonais gontract cyflogaeth drafft a llawlyfr cyflogeion ati, y gallai eu teilwra i’r swydd, a oedd yn golygu ei bod yn meddu ar yr hanfodion i gyflogi rhywun am y tro cyntaf.”
Trwy gyfarfodydd dal i fyny rheolaidd, roedd David hefyd yn gallu rhoi cynllun busnes i Philippa, wedi’i ddrafftio gan un o’n hymgynghorwyr diolch i rywfaint o gyllid. Meddai Philippa: “Mae bod â chynllun busnes cadarn ar waith o gymorth mawr wrth i ni symud ymlaen a thyfu’r sefydliad, sy’n cynnwys ymgeisio am ragor o gyfleoedd ariannu.”
Mae David hefyd wedi hwyluso mathau eraill o gymorth a chyfarwyddyd, fel hyfforddiant cyfarwyddwr, mentora busnes a syniadau ariannu.
EFFAITH
Trwy fanteisio ar y gwasanaethau hyn gyda Busnes Cymdeithasol Cymru, mae Philippa wedi magu hyder i redeg ei menter gymdeithasol gan wybod y gall anfon e-bost neu ffonio am gyngor pryd bynnag y bydd ei angen arni: “Ceir cynifer o elfennau i redeg busnes sy’n llawer llai brawychus nawr, ac mae hynny i gyd oherwydd David a’r cyngor a’r cymorth yr wyf i wedi eu cael gan Busnes Cymdeithasol Cymru.”
Y DYFODOL
Gyda chynllun busnes cryf ar waith, hyfforddiant cyfarwyddwyr a’r holl bolisïau perthnasol y gallai sefydliad sy’n ffynnu fod eu hangen, mae Philippa yn gallu gweld dyfodol Physical Empowerment yn fwy eglur. Mae’n esbonio: “Nesaf, hoffwn weld Physical Empowerment ledled Cymru. Rwy’n hyfforddi hyfforddwyr ar hyn o bryd, un yn Sir Benfro ac un yn Llanelli, felly rydym ni eisoes yn gosod y sylfeini i’r sefydliad dyfu. Ymhellach ymlaen, hoffem ehangu Physical Empowerment i Loegr.”
Mae Busnes Cymdeithasol Cymru yn awyddus i barhau ar y daith hon gyda Philippa. Mae David yn esbonio: “Mae Physical Empowerment yn cynnig gwasanaeth arbenigol iawn ac mae’r potensial i dyfu yn enfawr; mae Philippa wedi cael adborth anhygoel hyd yn hyn ac rydym ni i gyd wir yn edrych ymlaen at barhau i ddarparu’r cymorth sydd ei angen ar Philippa ar y daith hon.”
I gynorthwyo Philippa ymhellach fynd ar drywydd ei huchelgeisiau ar gyfer Physical Empowerment, rhoddodd UnLtd eu Gwobr Uwchraddio UnLtd iddi ym mis Mehefin. Yn rhan o’r fenter wych hon, bydd yn derbyn cymorth ariannol yn ogystal â chymorth pellach i ddatblygu ei model busnes a’i ffrydiau incwm, gan sicrhau twf parhaus gyda’i menter.
CYNGOR I EGIN FUSNESAU ERAILL
Mae Philippa o’r farn os oes gan egin fusnesau hunanhyder, eu bod yn adeiladu ar atebion sy’n bodoli eisoes, yn creu partneriaethau ac yn siarad â Busnes Cymdeithasol Cymru, y byddant yn llwyddo: “Pe bawn i wedi bod yn ymwybodol o Busnes Cymdeithasol Cymru pan ddechreuais y busnes gyntaf, byddai wedi gwneud bywyd yn llawer symlach. Mae’n braf gwybod bod gennych chi rywun ar eich ochr chi.”
CYSYLLTWCH
Wedi’ch ysbrydoli i wneud gwahaniaeth i bobl neu’r blaned? Siaradwch â’n tîm o arbenigwyr cychwyn newydd yn Busnes Cymdeithasol Cymru. I ddarganfod mwy am ein gwasanaethau, ffoniwch 0300 111 5050 neu anfonwch e-bost i sbwenquiries@cwmpas.coop.
Busnes Cymdeithasol Cymru, August 2024
Comentários