Mae’r term ‘seiliedig ar drawma’ wedi dod yn dipyn o ffefryn dros y blynyddoedd diweddar ond beth mae’n ei feddwl mewn gwirionedd? Mae amrywiaeth o ddiffiniadau ond yr un oedd yn gwneud y mwyaf o synnwyr i mi oedd hwn: “Yn lle gofyn ‘beth sy’n bod arnat ti?’ mae dull seiliedig ar dawma’n gofyn, ‘beth ddigwyddodd i ti?’”

Mewn geiriau eraill, yn hytrach na meddwl bod gan y person ifanc sy’n gweiddi yn eich wyneb a thaflu pethau ar draws yr ystafell ddosbarth broblem gyda’i agwedd sydd angen ei datrys, efallai y gallech chi geisio archwilio beth sydd wedi gwneud i’r person ifanc yna deimlo mor ddiymadferth ac allan o reolaeth nes bod angen iddyn nhw sgrechian a thaflu pethau ar draws yr ystafell?
Dydy hyn ddim yn golygu bod profi trawma yn rhoi caniatâd i chi ymddwyn fel ag y mynnoch heb gael eich cosbi ond mae’n golygu os yw cymdeithas gyfan yn fwy ymwybodol o effaith trawma, bod mwy o siawns y gall y rhai hynny sy’n brifo’n ofnadwy y tu mewn gael cymorth gan bobl o’u cwmpas.
Roeddwn i’n arfer meddwl bod y rhai hynny sy’n swagro ar hyd y lle ac yn siarad ac ymddwyn yn galed yn haerllug iawn ond ers addysgu gwahanol ddosbarthiadau crefftau ymladd a hunanamddiffyn dros y blynyddoedd, dw i wedi sylweddoli mai’r rhai sy’n swagro fwyaf pan fyddan nhw’n cyrraedd yw’r rhai sydd fel arfer yn dod i’r dosbarth am eu bod, yn y bôn, yn ofnus neu’n bryderus ond na fydden nhw byth yn defnyddio’r geiriau hynny i ddweud wrthoch chi. Bydd hyfforddwr seiliedig ar drawma’n ystyried hyn ac yn caniatáu i hyn ffurfio’r ffordd y maen nhw’n ymwneud â’r person hwnnw. Efallai y byddai math arall o hyfforddwr yn diystyru’r person sy’n swagro ac yn meddwl ei fod yn dda i ddim.

Dydy deall trawma ac effaith trawma ddim yn golygu y gall pobl ddefnyddio trawma’r gorffennol a’i effeithiau arnyn nhw i esgusodi ymddygiad gwael yn ystod eu bywyd nawr h.y. defnyddio trais yn erbyn eu partner. Efallai ei fod wedi ffurfio’r ffordd y maen nhw’n teimlo ond mae gennym ni i gyd ryw lefel o reolaeth dros sut yr ydym yn ymddwyn ac rydym yn gwybod y gwahaniaeth rhwng da a drwg.
“Mewn byd lle gallwch fod yn unrhyw beth, byddwch yn garedig” meddai Emerson. Mae bod yn garedig yn ffordd arall o ymddwyn yn seiliedig ar drawma; byddwch yn barod i gefnogi yn lle beirniadu. Dydy hyn ddim yn hawdd bob amser a bod yn onest ond mae’n rhywbeth y gallwn ni gyd anelu at wneud.
“Beth ddigwyddodd i ti? Sut alla i dy helpu i deimlo’n fwy diogel? Oes yna unrhyw beth nad wyt ti eisiau i fi wneud?” “Fyddet ti’n hoffi i fi dy helpu di?”

Os hoffech siarad â ni, ymuno ag un o’n cyrsiau neu os oes angen ein help arnoch chi, cysylltwch â ni!
Kommentare