
Hyfforddiant Hunanamddiffyn Emosiynol, Corfforol a Meddyliol

Mae Physical Empowerment CIC yn Gwmni Buddiant Cymunedol, h.y. nid er elw. Rydyn ni’n anelu at gynnig ein hyfforddiant, yn rhad ac am ddim, i’r bobl sydd ei angen fwyaf.
​
Crëwyd Physical Empowerment CIC i gynnig cyfle i gymaint o bobl â phosibl brofi’r grym o weithio’u ffordd trwy drawma corfforol a meddyliol. Rydyn ni’n cynnig model hyfforddi cynhwysfawr, sy'n cwmpasu sgiliau hunanamddiffyn corfforol, gwydnwch emosiynol, brwydro meddyliol a greddfau goroesi.
​
Mae Physical Empowerment CIC yn gweithio gyda hyfforddwyr gwrywaidd a benywaidd ac rydyn ni’n credu bod hyn yn bwysig; er mwyn mynd i'r afael â thrais yn y gymdeithas, rhaid i ddynion a menywod weithio gyda'i gilydd. Mae ein cyrsiau i fenywod yn cael eu cynnal gan hyfforddwr benywaidd a rhoddir rhybudd cyn i hyfforddwr gwrywaidd fynychu’r cwrs.
​
Ein nod hirdymor yw sefydlu rhwydwaith o ganolfannau Physical Empowerment sy'n cael eu rhedeg gan bobl a fynychodd y cyrsiau i ddechrau fel buddiolwyr. Bydd hyn yn cymryd amser, amynedd a chyllid ond fe wnawn ni gyrraedd y nod!
​
I ddarllen mwy am yr hyn a wnawn, cliciwch YMA. Neu os yw'n well gennych wylio fideo, gwyliwch ein fideo YMA.​
​​
Beth i'w Ddisgwyl

Ymagwedd gyfannol
Corfforol - Emosiynol - Meddyliol

Cymorth a Dealltwriaeth

Hyfforddiant Hunanamddiffyn Corfforol

Hunanrymuso

Gofod Diogel

Hunanymwybyddiaeth

Datblygu Hyder

Goleuedigaeth
Manteision ein Hyfforddiant
Nid eich bai chi yw'r hyn ddigwyddodd i chi. Pan fyddwch chi mewn sefyllfaoedd bregus, yn enwedig wrth wynebu ymosodiad corfforol, bydd eich ymennydd, eich meddwl a'ch corff yn ymateb yn yr unig ffordd sy’n gwneud synnwyr iddyn nhw. Efallai mai rhewi fydd hynny; dyna ein hymateb mwyaf cyffredin. Darllenwch hynny eto os oes angen.
​
Ein nod yw helpu pobl i ddatblygu sgiliau hanfodol, er enghraifft cymryd perchnogaeth o’ch gofod personol, codi lefelau ymwybyddiaeth, gwrando ar eich greddf a chredu ynddi a theimlo'n fwy hyderus yn eich gallu i amddiffyn eich hun.
​
Nod cyrsiau CIC Grymuso Corfforol yw trawsnewid y rhai sy'n mynychu oherwydd bod gan bob unigolyn yr hawl i deimlo'n ddiogel yn ei groen ei hun ac mae hynny'n cynnwys chi!
​
Rydyn ni’n credu ynoch chi ac rydyn ni’n credu y gallwch chi wneud unrhyw beth rydych chi’n dymuno ei wneud.


Port Talbot; Ladies' Feedback 2022

Os hoffech chi ymuno ag un o’n cyrsiau neu grwpiau, yna peidiwch ag oedi; cysylltwch â ni heddiw.

Cysylltwch
Rydyn ni yma i helpu. Cysylltwch â ni.
Ffoniwch 07929 125 957
neu cliciwch yma ar gyfer ein ffurflen wefan gyflym a hawdd: