top of page

Taith Keith Collyer

Mae Keith Collyer yn Cyfarwyddwr Cwmni Buddiant Cymunedol Physical Empowerment CIC a hyfforddwr gyda Physical Empowerment CIC ac yn chwarae rôl weithredol wrth greu ochr gorfforol y rhaglenni ar gyfer Physical Empowerment. Mae’n gyfarwyddwr Vigilance Self Protection Ltd a The Self Defence Centre CIC. Mae’n addysgu amrywiaeth o systemau hunan amddiffyn a chrefftau ymladd yn ei gampfa ei hun; Crawley Combat Academy. Darllenwch am ei daith isod... 

Keith Collyer - Physical Empowerment Coach

Pan oeddwn yn ifanc iawn symudon ni i Awstralia. Ces i fy mwlio am fod yr unig blentyn o Loegr yn yr ysgol. Doedd fy mam ddim yn gallu dioddef y gwres felly symudon ni nôl i Dde Llundain, lle ges i fy ngeni a’m magu. 

​

Ddiwedd y 1970au oedd hi ac yn gyfnod o ddirwasgiad. Roedd bywyd yn anodd. Cafodd fy nhad waith rhan amser a buom yn byw mewn gwesty am flwyddyn cyn cael ein symud i stad gyngor fawr yn Brixton. Roedd rhaid i mi ymladd am arian, os o’n i’n ennill, o’n i’n cael fy nhalu, os o’n i’n colli o’n i’n cael dim. Ymhen dim des i’n strydgall. Yr unig ffordd o oroesi!

​

Symudon ni dipyn o weithiau a setlo yn Crawley. Doeddwn i ddim wedi bod yn yr ysgol ers Awstralia. Ar ôl cyfnod o addysgu gartref, es i i ysgol Thomas Bennett. Parhaodd y bwlian, daliais fy nhir ac yn y pendraw, ges i lonydd ganddyn nhw. 

 

Ar ôl gadael yr ysgol ymunais â chadéts y Llynges Frenhinol. Roeddwn am ymuno’n llawn amser ond gofynnodd fy nhad, cyn-filwr o’r ail ryfel byd, i mi beidio. Allan o barch, dilynais ei ddymuniadau. Chwaraeais i Bêl Droed Americanaidd i Crawley Raiders am 3 blynedd. Rhywbeth yr oeddwn i wir yn ei fwynhau ac a roddodd sgiliau bywyd gwerthfawr i mi.

​

Bu farw fy nhad yn sydyn o drawiad ar y galon. Roedd yn sioc i fy system a chymerais y cyfle i fyfyrio ar fy mywyd hyd at y pwynt yna. Arweiniodd y myfyrio hyn at Grefftau Ymladd. Rhoeddwn i’n rhyfeddu at gyflymdra ac urddas yr hyfforddwr. Roedd gen i ddiddordeb mawr ac ymunais â fy nosbarth Wing Chun lleol yn Crawley.

​

Dw i wedi bod yn hyfforddi Wing Chun am dros 20 mlynedd. Mae gen i Sash Du 5ed gradd PG a dw i’n dysgu yn Crawley.

 

Des i ar draws Krav Maga ar ôl ymchwilio i amddiffyn yn erbyn ymosodiadau arfog. Ar ôl mynychu bŵtcamp ar benwythnosau, ymunais i â chwrs hyfforddwr. Roedd e mor anodd. Yn feddyliol ac yn gorfforol.  Dysgodd agwedd a meddylfryd gwahanol i mi.  Des i’n hyfforddwr ac ar ôl peth amser sefydlais i CROSS KRAV MAGA ACADEMY. Mae’r hyfforddiant hwn wedi arwain at gyfleoedd i ddysgu amddiffyn yn erbyn ymosodiadau â chyllell yn yr Unol Daleithiau gydag NLB (No Lie Blades), hyfforddiant mewn hunan amddiffyn ar gyfer HERT (Hostile Environment Response Training), swyddogion heddlu, swyddogion gwarchod personol a goruchwylwyr mynediad.

​

Dw i’n hyfforddwr llawn amser a dw i wrth fy modd gyda fy ngwaith. Dw i’n helpu pobl i ennill hyder, goresgyn ofnau, magu sgiliau, helpu pobl i ddod yn fwy heini ac yn gryfach, a deall sut i warchod eu hunain a’u hanwyliaid a dw i wedi datblygu cymuned gefnogol.

​

Fy mhrosiect nesaf yw ffurfio Cwmni Buddiannau Cymunedol (CIC) fel y gallaf helpu pobl sydd ag anableddau ac iechyd meddwl i hyfforddi mewn crefftau ymladd, myfyrdod a llesiant cyffredinol.

​

Fy niddordebau ydy beiciau modur, cerddoriaeth a diwylliant y 1950au, hanes ac ymweld â Sbaen lle dw i’n gobeithio mynd i ymddeol rhyw ddiwrnod.

Os hoffech siarad â ni, ymuno ag un o’n cyrsiau neu os oes angen ein help arnoch chi, cysylltwch â ni!

bottom of page