“Mae hunanamddiffyn yn fwy na dim ond cyfres o dechnegau, mae’n gyfres o gredoau ac mae’n dechrau gyda’r gred eich bod chi werth eich amddiffyn.”
Mae yna lawer o bobl sydd ddim wir yn credu eu bod werth eu hamddiffyn. Dw i’n gweld tystiolaeth fyw o hyn o hyd ac o hyd pan fydda i’n cynnal sesiwn hunanamddiffyn i ddechreuwyr, yn enwedig un i fenywod yn unig. Gofynnwch i fenyw daro’r padiau gan esgus eu bod yn berson sydd newydd ymosod arni ac fe wnaiff hi eu taro nhw rywsut, rywsut gan ymddiheuro am eich brifo chi ar yr un pryd. Dywedwch wrth yr un fenyw i esgus bod y padiau yna newydd ymosod ar ei phlentyn ac fe awn nhw’n hollol wyllt heb yr un ymddiheuriad yn agos.
Digon teg, efallai eich bod yn credu bod hynny’n gwneud synnwyr ond dw i’n anghytuno. Dw i wastad yn dweud wrth y menywod hynny, “pam bod rhywun arall yn haeddu ei amddiffyn yn fwy na ti? Byddai’r person yna rwyt ti mor awyddus i’w amddiffyn yn torri ei galon pe na fyddet ti’n dod adre eto felly mae angen i ti flaenoriaethu dy ddiogelwch dy hunan hefyd.”
Gall hyfforddwr addysgu rhywun i ddal menig, sut i daro rhywun, sut i symud eu corff, gweithio’u traed, sefyll yn gadarn ac ati ond bydd hyfforddwr da’n gweithio ar y meddwl ac yn egluro’r seicoleg tu ôl i bethau fel bod pobl yn dysgu sut i ddehongli a defnyddio’u hymatebion greddfol.
Corfforol, meddyliol, emosiynol ac ysbrydol; pedair agwedd sydd â chyswllt anorfod rhyngddyn nhw ym mhob rhan o’n bywydau. Dydy gwir hunanamddiffyn ddim fel golygfa ymladd o ffilm, mae’n dechrau ar y tu mewn ac yn gallu amlygu ei hun mewn ffordd mor syml â’r gallu i ddweud, “Na.”
Mae’r Cwricwlwm Cenedlaethol yn canolbwyntio ar bob agwedd ar berson ifanc felly pam nad ydyw’n cynnwys sgiliau fel dulliau hunanamddiffyn syml? Mae gan bob person yr hawl i amddiffyn eu hunain felly siawns na ddylen nhw gael rhywfaint o sgiliau a fyddai’n caniatáu hyn iddyn nhw wneud hynny pe byddai’r sefyllfa’n codi. Does dim rhaid i hunanamddiffyn gael ei addysgu mewn ffordd sy’n codi ofn ond yn lle hynny gallai gael ei integreiddio yn y cwricwlwm mewn ffordd gadarnhaol ac sy’n grymuso pawb.
Byddai cynnig hunanamddiffyn i bobl ifanc yn golygu y byddai’n rhan hanfodol o’u datblygiad a fyddai wedyn yn arwain at gymdeithas fwy gwybodus sydd â dealltwriaeth dda am faterion sylfaenol fel ymwybyddiaeth, gwrando ar reddf ac ymddygiad hyderus.
Mae hunanamddiffyn effeithiol yn golygu defnyddio cymysgedd o sgiliau emosiynol, corfforol a meddyliol mewn ffordd bositif i gadw’ch hunan yn ddiogel. Efallai y dylech chi roi cynnig arni? Peidiwch â phoeni, does dim angen sgiliau cicio pen!
SYLWER: Peidiwch â chael eich denu gan unrhyw glybiau crefftau ymladd sy’n dweud eu bod yn dysgu hunanamddiffyn. Mae hunanamddiffyn a chrefftau ymladd yn ddau beth gwahanol iawn. Bydd blog ar hynny rywbryd yn y dyfodol!
Os hoffech siarad â ni, ymuno ag un o’n cyrsiau neu os oes angen ein help arnoch chi, cysylltwch â ni!
Comentarios