top of page

Taith Philippa Scannell

Philippa Scannell yw Sefydlydd a Cyfarwyddwr Cwmni Buddiant Cymunedol Physical Empowerment CIC. Mae Philippa’n credu bod gan bob person yr hawl i deimlo’n ddiogel yn eu croen eu hunain. Bu’n addysgu crefftau ymladd a hunan amddiffyn am dros ddeng mlynedd a Physical Empowerment CIC yw ffrwyth llafur y straeon a glywodd gan bobl y cyfarfu â nhw ar hyd y daith yn ogystal â’i phrofiadau personol ei hunan. Darllenwch ragor am ei thaith isod... 

Philippa Scannell

Dw i ddim yn siŵr ble i ddechrau felly dw i’n mynd i fynd yn syth at y pwynt! Am sawl rheswm, erbyn i mi fod yn 21 oed, roeddwn i’n fenyw ifanc grac iawn a doeddwn i ddim yn gwybod ble i gyfeirio fy nicter felly roeddwn yn ymladd yn gyson a dw i’n gwybod nad oeddwn bob amser yn berson neis iawn. Roeddwn ym Mhrifysgol De Montfort yng NghaerlÅ·r a chawsom y cyfle i fynd i astudio dramor am chwe mis; roeddwn yn credu y byddai’n gyfle grêt i fynd i ffwrdd a bod mewn awyrgylch cwbl wahanol felly fe es i amdani. Roedd byw ac astudio yn Yr Iseldiroedd yn brofiad ffantastig na wna i fyth ei anghofio, mi gwrddais i a phobl anhygoel o dros y byd i gyd ac fe ddechreuais i fynd i wersi bocsio cic. Waw! Roeddwn i wrth fy modd, o’n i’n cael bwrw a chicio’r padiau hynny mor galed ag yr oeddwn i eisiau ac fe ddysgais i gadw unrhyw emosiynau yn ystod yr wythnos a’u defnyddio yn erbyn y padiau yn y sesiynau bocsio cic. 

​

I dorri stori hir yn fyr, symudais o gwmpas dipyn ar ôl bod yn y brifysgol ond wnes i barhau i focsio cic ble bynnag yr es i; CaerlÅ·r, gogledd Sbaen, Sussex, de Sbaen ac yna’n ôl i Sussex. Daeth cyfnod pan na allwn i ddod o hyd i ddosbarth bocsio cic lleol a dyna pryd y dois i ar draws Muay Thai; penelinoedd, pengliniau, gafaeliadau a llawer mwy! Ar un pwynt fe helpais i hyfforddi dosbarthiadau iau y Gymdeithas Bocsio Amatur (ABA) y gampfa a oedd yn llawer o hwyl a arweiniodd ata i’n cymhwyso fel hyfforddwr. Dros y blynyddoedd dw i hefyd wedi rhoi cynnig ar  Wing Chun, Karate ac Aikido.

​

Dw i wrth fy modd â chrefftau ymladd ond oherwydd fy hanes personol, roedd rhan ohonof nad oedd byth yn teimlo’n ddiogel ac yn hyderus er yr holl hyfforddi. Roedd pawb yn meddwl fy mod mor hyderus ond yn y bôn roeddwn yn gwybod nad oedd hynny’n wir a doeddwn i ddim yn gwybod beth i’w wneud am y peth.  Dim ond pan wnes i wir ddadansoddi’r peth y sylweddolais nad oeddwn i’n hyderus am amddiffyn fy hun mewn sefyllfa go iawn. Ar ôl profi ofn pur sy’n achosi i chi rewi, roeddwn yn gwybod na fyddai’r holl hyfforddiant mewn crefftau ymladd yn y byd yn fy helpu i atal hynny. Pan fyddwch yn paffio neu ymladd mewn crefftau ymladd, rydych fel arfer yn erbyn rhywun o bwysau a phrofiad tebyg i chi ac mae gennych ddyfarnwr i sicrhau fod popeth yn cael ei wneud yn ddiogel ac o fewn y rheolau. Nid felly yw hi yn y byd go iawn a sylweddolais fy mod i eisiau hyfforddi mewn system oedd wedi ei seilio ar realiti. 

​

Fe ddois i o hyd i Combat Academy ac ar ôl un sesiwn roeddwn i wrth fy modd. Ymrwymais yn syth i gymhwyso i fod yn hyfforddwr. Roedd cwblhau’r hyfforddiant yn anodd ac roedd rhaid i mi wynebu sgerbydau difrifol o fy ngorffennol ond mi lwyddais ac fe gymhwysais i ar ôl llawer o ddagrau a gwaith caled. Cynhaliais i amrywiaeth o wersi hunan amddiffyn mewn ysgolion a phrifysgolion ac roeddwn i wrth fy modd. 

​

Yna, drwy hap a damwain. Des i ar draws CROSS (Combat Ready Offensive Survival System) Krav Maga ac ar ôl sesiwn brofi, roeddwn yn gwybod fy mod eisiau ychwanegu’r sgiliau o fewn eu system nhw at yr hyn yr ydw i’n ei addysgu am ei fod yn heriol ac weithiau’n galed ond bob amser wedi’i seilio ar realiti. Allwch chi byth hyfforddi eich corff i beidio â rhewi ond fe allwch chi roi cyfle llawer yn well i’ch hunan ymateb yn hytrach na gwneud dim byd

​

Fe ddois i o hyd i ddyfyniad sy’n crynhoi pam roedd hi mor bwysig i fi ddysgu hunan amddiffyn a theimlo’n ddiogel yn fy nghroen fy hun: 

 

"mae teimlo’n hyderus yn eich gallu i amddiffyn eich hunan yn rhoi’r grym i chi fyw gyda llai o ofn a mwy o ryddid."

 

Dw i’n deall yn uniongyrchol fod ein hiechyd corfforol a meddyliol yn gysylltiedig ac os yw un yn dioddef yna bydd y llall hefyd. Pan dw i’n addysgu rhywun, beth bynnag dw i’n eu haddysgu nhw, dw i’n ceisio deall beth sy’n eu gyrru nhw a pham eu bod yna yn y lle cyntaf.

​

Ym mis Mawrth 2021 sefydlais i Gwmni Buddiant Cymunedol Physical Empowerment CIC gyda’r bwriad o helpu pobl i ddod i delerau â thrawma’r gorffennol wrth ganolbwyntio ar holl agweddau hunan amddiffyn; emosiynol, corfforol a meddyliol

 

Yng ngeiriau Winnie the Pooh, "Rwyt ti’n ddewrach nag wyt ti’n ei gredu, yn gryfach nag wyt ti’n ymddangos ac yn glyfrach nag wyt ti’n feddwl."

Os hoffech siarad â ni, ymuno ag un o’n cyrsiau neu os oes angen ein help arnoch chi, cysylltwch â ni!

bottom of page